Yn Rhagfyr 1990, nodwyd tri menyw oedd yn gweithio i’r cynllun hyfforddi llywodreath leol ym Machynlleth yr angen am ansawdd da gofal plant cyn-ysgol.
Menywod cyfarfod oeddynt a oedd yn dymuno dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod gartref gyda’u plant am ychydig o flynyddoedd, tra bod eraill eisiau cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddi rhan amser neu llawn amser. Roedd y rhan fwyaf o’r merched yn teimlo gwahardd rhag ail-hyfforddi neu mynd i mewn i’r grym gwaith oherwydd diffyg cyflysterau gofal plant. Sefydlwyd Meithrinfa Machynlleth yn y flwyddyn 1991 gan grŵp o rieni lleol â oedd eisiau cynyddu yr argaeledd o ansawdd gofal plant yn y gymuned leol. Ar yr amser yna roedd yn darparu gofal ar gyfer babanod a phlant hyd at 4 oed, yn cynnig ansawdd uchel a gofal cyn-ysgol dwyieithog. Roeddynt yn gallu prynnu offer chwarae ail-law a adnoddau meithrin o Hyfforddiant Powys.
I ddechrau, roedd y staff yn gweithio mewn cynllun hyfforddiant y llywodraeth a oedd yn cyfrannu tuag at talu cyflogau.Hefyd, derbyniwyd rhoddion gan unigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn ogystal a grant bach i helpu gyda costiau cychwyn.. Wrth i’r prosiect datblygu, cafodd ei gydnabod bod angen darpariaeth tu allan i’r ysgol ar gyfer plant hŷn yr ardal.
Yn y flwyddyn 1996 gyda chymorth Grant Loteri Cenedlaethol, cafodd Clwb tu allan i’r ysgol Machynlleth ei osod fyny yn y Ganolfan Gymunedol. Ym mis Medi 2006, cafodd y Clwb tu allan i’r ysgol ei symud i Ty Melfed, ger yr Ysgol Gynradd. Mae’r Clwb yn cynnig gwerth rhagorol, gofal plant fforddiadwy a chyfleoedd chwarae trwy gydol y flwyddyn ar gyfer plant hyd at ddeuddeg oed.
Mae’n rhedeg Clwb ar ôl ysgol yn ystod tymor ysgol yn ogystal â Clwb Gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol.
Nodau
I ddarparu gofal plant fforddiadwy i blant oed cynradd ledled yr ardal.
I ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau, coginio, chwaraeon a.y.y.b
I annog hunan barch, hunan ymwybyddiaeth a hunan hyder.
I annog y plant i barchu teimladau, gwerthoedd a eiddo bobl eraill.
I annog plant i gymryd cyfrifoldeb am eu Clwb trwy ofalu am eu gilydd a chymryd ofal o’r offer
I annog plant i groesawu aelodau newydd a dangos y ffordd iddynt.
Rydym yn anelu i helpu’r plant i ddatblydu i’w potensial llawn trwy profiadau positif, cymdeithasol, emosiynol, a chorfforol.
Rydym hefyd yn annog y plant i ddysgu bod gwerthoedd sy’n deillio o gefndiroedd gwahanol sef hiliol, diwylliannol, crefyddol a ieithyddol yn cael eu gydnabod a’i barchu. Mae anghenion unigol bob plentyn e.e anableddau a rhyw yn cael eu hadlewyrchu yn y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Newid Diwethaf (WEDNESDAY, 21 SEPTEMBER 2011 08:42)
Daily Routines & Gallery
Rhan un – Clwb ar ôl Ysgol
Amser Sesiwn
Mae’r plant sydd ar fin mynychu’r Clwb ar ôl Ysgol ac yn mynychu Ysgol Gynradd Maschynlleth yn cael eu gasglu gan ein staff ymroddedig ar ddiwedd eu diwrnod ysgol. Mae’r plant yn cael eu hebrwng yn nôl i’r Clwb, lle maent yn cael y cyfle i chwarae rhydd neu ymlacio ar ôl eu diwrnod prysur yn yr ysgol. Trwy gydol y sesiwn, mae gan y plant mynediad i’r tu mewn a’r tu allan os yw’r tywydd yn caniatau.
Bydd dewisiad o weithgareddau ar gael bob amser, fodd bynnag, maent yn cael eu harwain gan yr hyn mae’r plant yn mwynhau eu wneud orau, am ein bod yn teimlo bod hyn yn gweund i’r plant deimlo yn fwy gyfforddus yn eu amgylchedd, rhywle maent yn gallu ymlacio a mwynhau perthynas bositif gyda phawb sydd yn mynychu.
Rhan dau – Clwb Gwyliau
Session Time
Mae’r Clwb Gwyliau yn darparu lle sefydlog a diogel ar gyfer eich plant, lle maent yn gallu chwarae a ymlacio gyda’u ffrindiau yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae yna rhai arferion yn cael eu gynnal yn y Clwb bob dydd gan gynnwys amser snac iach yn y sesiynnau bore a prynhawn. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn y Clwb yn amrywio o ddydd i ddydd ac o dymor i dymor. Mae yna enghreifftiau isod o rai o’r weithgareddau sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn ystod y Clwb Gwyliau: