 |
Meithrinfa
Sefydlwyd Meithrinfa Gymunedol Machynlleth ym 1991 gan gr?p o rieni lleol oedd eisiau cynyddu darpariaeth gofal plant o ansawdd yn y gymuned leol.
Oriau Agor
Mae'r Feithrinfa ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 8.30yb a 5.30yp. Rhedir y Feithrinfa ar sail sesiynau a gellir archebu lle i'ch plentyn am fore, pnawn, am ddiwrnod cyfan neu am 'ddiwrnod ysgol'. Am fwy o fanylion gweler yr adran costau.
Manylion Cyswllt
Meithrinfa Gymunedol Machynlleth
Tir y Plas,
Stryd Maengwyn,
Machynlleth,
Powys, SY20 8DZ
Ffôn: 01654 702933
e-bost: nursery@mccp.org.uk
0 - 2 flwydd oed £3.00 yr awr.
| Bore |
8.30-12.30 |
£12.60 |
| Prynhawn |
1.30-5.30 |
£12.60 |
| Trwy'r Dydd |
8.30-5.30 |
£28.35 |
| Diwrnod Ysgol |
8.45-3.45 |
£22.05 |
2 - 4 blwydd oed £2.70 yr awr.
| Bore |
8.30-12.30 |
£11.34 |
| Prynhawn |
1.30-5.30 |
£11.34 |
| Trwy'r Dydd |
8.30-5.30 |
£25.51 |
| Diwrnod Ysgol |
8.45-3.45 |
£19.84 |
Os yw plentyn yn dod i'r Feithrinfa yn gynharach neu'n cael ei gasglu'n hwyrach na'r amser y cytunwyd arno, bydd costau ychwanegol.
Staffio
Rheolwraig y feithrinfa yw Emma Jones. Mae gan bob aelod staff unai gymhwyster NNEB, NVQ lefel 2 neu lefel 3 mewn Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar. Cyflogir staff yn unol â'r rheolau sy'n llywodraethu gofal plant, gan gynnwys cadarnhad CRB er mwyn sicrhau na chyflogir unrhyw un anaddas gan y Feithrinfa. (Gweler y Cynllun Gweithredu sy'n cael ei arddangos yn y Feithrinfa). Dewch i gwrdd â'n staff.
Cofrestru
Rheolir y feithrinfa gan ASGC (Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru) ac ar hyn o bryd rydym wedi cofrestru ar gyfer 22 o blant 0-5 mlwydd oed. Gofalir am y plant yn eu grwpiau oedran, mae plant 0-2 yn yr ystafell felen, plant 2-3 yn yr ystafell werdd a phlant dros 3 mlwydd oed yn yr ystafell las.
Mwy o Wybodaeth
Yn yr adran hon gallwch hefyd ddarllen ein Nodau ac Amcanion, gweld enghraifft o ddiwrnod nodweddiadol yn y feithrinfa ar y dudalen amserlen, neu ymweld â'r galeri lluniau cwrdd â'n staff.
|