 |
Clwb Tu Allan i'r Ysgol
Lleolir clwb tu allan i'r ysgol Machynlleth yng safle'r ysgol gynradd Machynlleth. Fe'i sefydlwyd er mwyn darparu gofal chwarae dwyieithog i blant 4 - 12 mlwydd oed. Croesewir plant o holl ysgolion Bro Ddyfi i fynychu'r clwb yn rheolaidd neu'n achlysurol.
Nod y clwb tu allan i'r ysgol yw rhoi cyfle i blant chwarae, cael hwyl ac archwilio syniadau a gweithgareddau newydd gyda'i gilydd mewn amgylchedd saff. Mae gan blant y cyfle i ddewis eu gweithgareddau eu hunain a mwynhau cwmni plant eraill o wahanol oedrannau.
Ceir dwy ystafell, cegin a thoiledau yn y clwb tu allan i'r ysgol yn ogystal â mynediad i neuadd fawr sy'n addas ar gyfer chwarae gemau a chwaraeon. Gellir rhannu'r ystafelloedd yn ardaloedd ar gyfer celf, crefftau, gemau, darllen ayb. Mae'r caeau chwarae lleol o fewn pellter cerdded byr.
Oriau Agor
Mae'r clwb ar agor o amser cau'r ysgol tan 6yp yn ystod tymhorau ysgol Powys. Bydd y plant o ysgolion Machynlleth yn cael eu hebrwng i'r clwb tu allan i'r ysgol gan staff. Gofynnwn fod y plant yn cael eu casglu yn brydlon ar ddiwedd sesiwn. Byddwn yn cosbi pobl sy'n cyrraedd yn hwyr yn gyson gyda chostau ychwanegol.
Manylion Cyswllt
clwb tu allan i'r ysgol Machynlleth
Ty Melfed
Safle'r Ysgol Gynradd Machynlleth
Craigfryn
Machynlleth
Powys SY20 8HE
ffôn: 01654 702607
ebost: afterschoolclub@mccp.org.uk
Costau Gofal Plant
£6.25 y sesiwn i bob plentyn.
Staffio
Julianne Saunders yw rheolwraig y clwb tu allan i'r ysgol, ceir 2 o weithwyr gofal, Sarah Gwillam a Jade Malone. Dewch i gwrdd â'n staff
Trafnidiaeth
Cesglir y plant o Ysgol Machynlleth ac fe'u cludir i'r clwb gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Gwnewch yn si?r bod athro/athrawes eich plentyn yn ymwybodol o'r dyddiau hynny pan maent yn mynychu'r clwb.
Cofrestru
Rheoleiddir y clwb tu allan i'r ysgol gan ASGC (Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru) ac ar hyn o bryd rydyn ni wedi cofrestru ar gyfer 24 o blant 4-8 oed, nid oes unrhyw reolau yn llywodraethu plant dros 8 oed. Gofalir am y plant yn ôl grwpiau oedran,
Plant 4-8 oed yn 'Nyth y Ddraig'
 |
Plant 8-12 oed yng 'Nghuddfan y Ddraig'.
 |
Mwy o Wybodaeth
Yn yr adran hon gallwch hefyd edrych trwy ein gweithgareddau, darllen ein còd ymddygiad, cwrdd â'n staff, neu ymweld â'r galeri
|