link to homepage
linc meithrinfa
linc clwb tu allan i'r ysgol
linc clwb gwyliau
linc adroddiadau
linc amdan MCCP
linc Saesneg

Amdan Prosiect Cymunedol Plant Machynlleth Cyf

Dechreuodd Prosiect Cymunedol Plant Machynlleth Cyf ym Medi 1991 fel menter gymunedol leol. Mae'n elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Caiff ei redeg a'i reoli gan bwyllgor o ymddiriedolwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn rhieni i'r plant sy'n defnyddio'r prosiect.

Mae'r prosiect hefyd yn cyflogi rheolwraig prosiect - Diane Jones, a gweinyddwraig rhan amser, Elizabeth Lumley.

Gallwch gefnogi Prosiect Cymunedol Plant Machynlleth Cyf trwy wirfoddoli, mynychu cyfarfodydd, codi arian, trwy wneud neu gyfrannu teganau a chyfarpar, awgrymu ryseitiau, caneuon neu storïau, rhoi syniadau inni am weithgareddau neu ymweliadau neu trwy roi eich barn ar y modd y rhedir y prosiect - mae hyn i gyd yn rhan o ddefnyddio prosiect cymunedol.

Gallwch hefyd helpu trwy wneud cais i ddod yn aelod neu'n Ymddiriedolwr. Nid oes angen unrhyw gymwysterau arbennig. Mae gan bawb brofiadau y gellir gwneud defnydd ohonynt mewn pwyllgor rheoli. Byddwn yn fodlon edrych ar anghenion hyfforddi a threfnu hyfforddiant. Gofynnwn i chi gyfrannu mewn unrhyw ffordd posibl a helpu'r prosiect i ddatblygu a chwrdd ag anghenion plant lleol a'u teuluoedd.

Darganfyddwch fwy am hanes y prosiect a sut i ddod yn aelod. Cyfarfyddwch â'n hymddiriedolwyr presenno.l Gweler enghreifftiau o'r gwahaniaethau a wnaed ers i'n rheolwraig prosiect gyrraedd.